Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 9
Tachwedd 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Yr Economi Sylfaenol
(45 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru ac Affrica
(45 munud)
5 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021
(20 munud)
NDM7822 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2021.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
6 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021
(15 munud)
NDM7821 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Hydref 2021.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
7 Dadl: Cynnwys Pleidleiswyr
(60 munud)
NDM7818 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i foderneiddio gweinyddu etholiadol yng Nghymru er mwyn sicrhau y gall pobl bleidleisio a bod eu pleidleisiau yn cael eu cyfrif.
2. Yn nodi egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwygio Etholiadol fel y nodwyd yn natganiad ysgrifenedig y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar 15 Gorffennaf 2021.
3. Yn gofidio am y cynigion gan Lywodraeth y DU i gyflwyno mesurau ar gyfer adnabod pleidleiswyr a chyfyngu ar fynediad at bleidlais drwy’r post a phleidlais drwy ddirprwy, a fydd yn atal pleidleisio ac yn amddifadu pobl yng Nghymru o’u hawliau democrataidd sylfaenol.
Datganiad Ysgrifenedig: Fframwaith ar gyfer diwygio etholiadol – 15 Gorffennaf 2021
Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylai etholiadau yng Nghymru fod yn rhydd ac yn deg.
2. Yn croesawu Bil etholiadau Llywodraeth y DU a'i ddarpariaethau i gryfhau uniondeb etholiadau.
3. Yn nodi bod cyflwyno mesurau ar gyfer adnabod pleidleiswyr wedi'i gefnogi gan y Comisiwn Etholiadol a bod swyddfa sefydliadau democrataidd a hawliau dynol y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop wedi nodi bod eu habsenoldeb yn risg diogelwch.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella uniondeb yr holl etholiadau a gynhelir yng Nghymru.
8 Dadl: Cofio a chefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
(60 munud)
NDM7819 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cofio ac yn cydnabod cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy’n parhau i wasanaethu yn ein Lluoedd Arfog, yn arbennig y rhai a gollodd eu bywydau.
2. Yn croesawu ac yn talu teyrnged i’r cymorth a roddir gan sefydliadau’r trydydd sector i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru, yn arbennig y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy’n dathlu can mlynedd o fodolaeth.
3. Yn mynegi ei gwerthfawrogiad llwyr o ymdrechion y Lluoedd Arfog gydol pandemig COVID-19 ac am y cymorth y maent yn parhau i’w ddarparu mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy ddarparu gwasanaethau a chymorth pwrpasol i gymuned y Lluoedd Arfog a thrwy gydweithio ac ymgysylltu yn barhaus â rhanddeiliaid.
Cyd-gyflwynwyr
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Sian
Gwenllian (Arfon)
Jane
Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliant canlynol:
Gwelliant 1 – Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel.
Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys anafusion sifil.
9 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 10 Tachwedd 2021